Dwi heb ddeud dim byd ar hwn ers tro, a hynny am fy mod i'n rhy brysur yn bod yn ddinesydd da a chydwybodol. Yr enghraifft ddwytha' o hyn oedd nos Sadwrn, pan welais i set o oriada' tŷ yn gorfadd ar y palmant ger yr Amgueddfa Genedlaethol.
"Hylô," medda fi, "be 'di hyn?", a'u codi nhw.
Ac ynghlwm â'r goriadau, roedd 'na rif i'w ffonio os y byddai rhywun yn digwydd ffindio'r goriad, a ffonio nesh i.
Ma'r ferch sydd bia'r goriada' newydd fod draw i'w nôl nhw, a diolchgar iawn o'dd hi 'fyd. Amanda 'di henw hi. Mi ddudodd ei bod wedi coginio swper i mi i ddeud diolch, ond ei bod hi wedi byta rhywfaint ohono, ac yn teimlo'n sâl. Ta waeth, mai'n gwbod lle dwi'n byw.
Y wers ydi hyn: mai wastad yn werth codi petha' sgleiniog oddi ar lawr, mi allwch - basic food hygiene allowing - gael eich gwobrwyo.
0 comments:
Post a Comment