Sunday, 24 October 2010

(Dim) Sŵn

Dwi 'di bod yn dawal iawn yn ddiweddar, ac allai 'mond ymddiheuro i'r lluoedd ohonoch sydd yn tshecio hwn bob dydd i weld be 'sgin i ddeud.

Mi fûm yng ngwyl Sŵn ddoe, ac am ddiwrnod difyr gafwyd. O'dd rhaid rasio o le i le, ac mi lwyddis i weld dipyn o fandia - Niwl, Mr Huw, Melys, Cate le Bon, Bare Left. Ella mai'r uchafbwynt oedd Meic Stevens yn Chapter bell, yn g'neud set ddwyieithog, ac yn dweud y glasur yma ar ôl i ni glapio i un o'r caneuon: "chi'n rhy caredig. Dim Huw Ceredig, diolch byth... Yw e 'di marw?"

Mi aeth petha ar i lawr wrth i ni giwio am hannar awr i fynd i weld Racehorses, ac yna canfod fod y gig yn sold owt. Yn waeth byth, mi aethon ni nôl i'r Fuwch Goch a chanfod bod Meistri Ffrainc ar ddechra' set. Reit ddigalon o'n i deud y gwir yn cerddad tua'r undeb, heb owns o fynadd mynd i'r disgo tawel. Ond O! am refyleshyn! Mi oedd 'na hwyl i'w gael yn dawnsio, a mwy fyth o hwyl yn diffodd yr hedffons a chlywed pawb yn canu efo'r diffyg miwsig. Achubwyd noson oedd yn prysur lifo lawr draen Stryd Womanby ar un pwynt.

Ma' nhraed i'n brifo heddiw, a sgin i fawr o lais, ond dwi'n rhyfeddol o iach o 'sdyriad. Dwi'n mynd i'r afftyr-parti yn Gwdihŵ nes mlaen. Ffri bŵs a ffri entri. Neis.

O.N. Dwi 'di dyfeisio dywediad newydd sbon: êl ding ding. h.y. sesh fawr iawn, sesh tan ddaw'r gloch amser cau. 'Da chi'n meddwl y gallwn i werthu honna i hics Pen Llŷn?

No comments:

Post a Comment