Wedi bod yn y Banc Sbeis (Barclays gynt) yng Nghricieth yn dathlu penblwydd Max. Mi gefais gyrri hyfryd - Dupiaza - wyddwn i ddim sut i'w ynganu - a Safnara oedd yr ola'n gorffan (er, i fod yn deg, mi oedd ei fwyd o yn hwyr yn cyrraedd). Mi aethon ni i'r Prince of Wales wedyn, ac mi nesh i gadarnhau unwaith eto na fedrai chwara darts. Ma isio gneud bob hyn a hyn.
Ma' Phosphorescent, Wilco a'r Brodyr Ffelys wedi bod 'mlaen yn ddi-stop gin i ers dyddia (nid Yo La Tengo a Modest Mouse fel oedd i fod) - allai'm aros. Cael lifft gan Now'r Bwlch i Gaerdydd fory, ac i Erddi'r Goeden Larmer, Salisbury ddydd Gwener. Dwi 'di cael gafael ar lifft adra 'fyd, ar yr amod ein bod ni'n stopio yng Nghôr y Cewri. Dwi'n shwr gallai fyw efo hynny...
Hwyl am y tro.
No comments:
Post a Comment