Sunday, 5 September 2010

Mis Medi

Mai'n dechra' teimlo fel Medi erbyn heddiw. Hwn 'di'r dydd Sul arferol cynta ers wythnosa - cinio dydd Sul, y bregath gynta yn Smyrna ers dwnim pryd, diwrnod ysgol/coleg/gwaith 'fory i bawb ond fi. Dechra' meddwl am Gaerdydd rŵan - dwi'n mynd nôl mewn ryw bythefnos, dros dri mis ers mi adael y lle. Ma hynny'n amsar rhy hir o lawar i'w alw'n wylia. Dwi'n dechra' hiraethu am soffas llawr canol Clwb Ifor...

Ond mai wedi bod yn haf da iawn, a dydi o ddim cweit drosodd eto. Dwi'n mynd i Ŵyl End of the Road penwythnos nesa', ac yn dechra edrach 'mlaen o ddifri erbyn hyn. Dwi'n mynd i dreulio'r wythnos nesa ma'n gwrando ar Yo La Tengo a Modest Mouse, dau o'r hedleinars, sydd heb gael hanner digon o fy sylw.

Mi sgwennai am Endoddyrôd eto ar ôl iddi fod. Mi fyddwch chi'n lwcus i gael dim ganddai cyn hynny, sgin i ffyc ôl i ddeud.

No comments:

Post a Comment