Gan i mi drin yr wythnos ddwytha' fel pe bai hi'n wsos y glas, dwi'n gorfod cael chydig ddyddia' tawelach wsos yma, sy'n fy siwtio i i'r dim. Sgin i fawr i'w ddeud wrth y clybia' mawr a'u welcym bôls, a dwi'm yn hoff o'r undeb. Fyddai byth yn teimlo mod i'n perthyn yno (y diffyg hwdi prifysgol Caerdydd, neu ella f'acen ogleddol?), sydd ddim yn arwydd gwych o unrhyw undeb.
Wedi deud hynna, mi o'n i allan neithiwr, ond dim yn yr undeb. Na, mi rosh i bump o mhunoedd prin i goffra' Oceana, wedyn treulio'r noson yn y clwb drws nesa'. Clyfar iawn. I Glam, a'u deusiyt o fodca am brisia'r saithdega', ma'r diolch na lwyddish i gyflawni fawr ddim heddiw, heblaw chwara' catsh yp ar betha' ddylwn i fod wedi ddarllen/wylio dro'n ôl. Nesh i wylio Withnail and I, a darllen Cyw Haul, a dwi newydd ddechra' The Catcher in the Rye.
Reir, dwi'n colli conecshyn efo'r wê bob dwy eiliad, ac mai'n amsar gwely gan mai fy nôd 'fory ydi codi cyn p'nawn.
'Sdawch.
O.N. Wedi gwrando ar albym newydd The Duke and The King hefyd, sy'n cynnwys y linell "love is a coke dealer's daughter". Oedd yr albym dwytha'n cynnwys y linell "Jesus walked on water, but so did Marvin Gaye". Dwi'sho gweld Simone Felice eto.
No comments:
Post a Comment