Erbyn hyn 'da ni tu hwnt i ddiwedd y ffordd, ond dyma rei o'r petha ddigwyddodd cynt:
Iau
Cael bora hamddenol iawn - sbio ar Lord of the Rings hyd yn oed. Hynny yn cael ei darfu braidd gan decst yn deud fod gen i ddwyawr yn llai o amser i bacio mhetha (a gneud cardyn penblwydd i Elin) nag oeddwn i 'di feddwl. Treulio awr hectig iawn yn lluchio petha' mewn i fagia, ac yna cael fy nghludo gan Now'r Bwlch i Gaerdydd (a Siôn yn dod efo ni, yn Bennar y cwbl). Aros yn nhŷ Awen. Diolch Awen.
Gwener
Cychwyn i, a chyraedd, End of ddy Rôd. Cwarfod y lleill. Mynd i weld Cêt le Bon, oedd yn dda iawn, er gwaetha' ymdrechion OwenacAwen i'w dishmoli. Edmygu'r safle, yn enwedig y gardyn sdêj. Duw â wyr be arall, ma' dydd Gwenar yn bell yn ôl.
Sadwrn
Sgowt efo Emrys a Gwenwyn o gwmpas y coed yn dod â ni i lyfrgell oedd yn cynnwys llyfr am rowndabowts. A must read. Aros yn y garden stêj rhan fwya' o'r diwrnod yn edmygu'r gerddoriaeth: Dylan LeBlanc oedd yn dda iawn, ac yn edrych yn uffernol o cŵl; Phosphorescent, oedd y band nesh i fwynhau fwya' trw'r penwythnos; a Deer Tick, oedd hefyd yn wych. Edmygu'r peunod hefyd, a dysgu gan fardd y meini be ma nhw'n fyta (bob math o friwsion a phlant). Y glaw hir-ddisgwyliedig yn dod, diolch fod Sam Beam (Iron & Wine) wedi camu i'r llwyfan pan na'th o, a chanu cân hudolus a stopio'r glaw. Uchafbwynt. Sgowt arall liw nos i lannerch y tylwyth teg yn y coed, lle deallon ni fod hyd yn oed ddryg dîlars yr ŵyl yn rhai clên a bonheddig. ("Do you gentlemen need any supplies?" ... "No, we're fine thanks" ... "No problem, enjoy your festival").
Sul
Diwrnod y Brodyr Ffelys a Wilco, a threulio'r pnawn yn disgwyl hynny yn bennaf. Creu campweithia' artistig ar focsys Pieminister (pastaim gwerth chweil). Mynd i'r ffrynt i weld Felice, oedd yn fudr ac yn flêr ac yn swnllyd fel y disgwyl. Set grêt, os fymryn yn fyr. Ian Felice yn edrych yn reit bôrd, Jimmy wrth ei fodd. Wilco yn wych, fel yr oedd Caitlin Rose wedyn. Gwely cynnar (eto). Dallt yn ddiweddarach mod i 'di methu Felice yn y tipi. Damio'r cysgu cynnar.
Llun
Lifft adra gan Emrys, via Côr y Cewri. Oeddan nhw yn llai nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl, ond mi oedd y dyn bach oddi fewn y teclyn sain yn wybodus iawn, ac mi dreulion ni hannar awr ddifyr yno. Taith hir adra, cyraedd fin nos. Gwd ffestifal.
*Yn ogystal â hyn, mi fytish i falafel, wejis, brecwast ffwl inglish, pitsa, cyrri thai corgimwch, crempog, burek caws gafr a selsig, a burritos. Dyna, yn anad dim, y rheswm mod i yn hollol sgint erbyn hyn.
No comments:
Post a Comment