Wednesday, 22 September 2010

Wa Bala ac ati

Dwi 'di cyrraedd 69, Gollum Road erbyn hyn, ac yn sgwennu hyn ar 'chydig o frys. Ma' na 7 ohonon ni yn y tŷ, ond achos bod 'na ryw ddarn o gyfarpar (peidiwch â gofyn be) ar goll, dim ond un person all fynd ar y wê ar y tro. Diolch virginmedia.

Ym Mhenllyn fush i dros y penwsos, yn lawnsio nofel Taid ar nos Wener, a difyr iawn oedd hynny. Dwi wedi'i darllen hi 'fyd, ac wedi mwynhau. Nos Sadwrn mi aeth yncl Gwynfor a fi, Rhys Matia a Dei Rhwyfo i'r Prins of Wêls yng Nghynwyd i gael ein Wa Bala ein hunain efo John ac Alun a Blondie ar y sgrechflwch a San Miguel ar y tap.

Ers hynny, dwi 'di bod yn gweld Old Crow Medicine Show yn y Bae, ac yn dallt o'r diwedd sut 'ma Gwibdaith Hen Fran yn trio swnio. Mi oedd hi'n noson dda iawn, a'r Glee Club yn le bach difyr. Ella mai'r peth difyrra' ddaeth o'r noson, fodd bynnag, oedd i mi gofio am fy nghynllunia i gyhoeddi traethawd ar y theori mai'r un person oedd Kate Roberts a Saunders Lewis. Mi siglai'r Byd Cymraeg i'w seilia'.

2 comments:

  1. Dwn i ddim fod o'r seilia y sigli di Osian; roedd cryn drafod ar y theori yna ganol y saithdega - ond mae o'n bwnc sy'n haeddu traethawd.
    Sut wyt ti'n esbonio mai i'r Llwyni Wermod ac nid i Holloway yr aeth Saunders? Mi fasan nhw wedi ffendio'r 'Kate' ynddo fo ar ei groesawiad i'r Llwyni.

    Ella mai dyna fydd dan sylw ym mhennod nesa Pen Talar.

    ReplyDelete
  2. Allai'm gneud pen na chynffon o'r frawddag gynta 'na

    ReplyDelete