Thursday, 2 September 2010

Safnara'

safn, eb ll. Gen, ceg, pen. MOUTH.
araf, a. Yn cymryd tipyn o amser, nid cyflym, pwyllog, hamddenol, hwyrfrydig. SLOW.

Dyma'r enw roddodd Iwan Gwenwyn i mi yn Ffair y Bragwyr, Glyn Ebwy. Mi ydw i, yn ôl pob sôn, yn ofnadwy o ara' deg yn byta. Dwi o'r farn mai pawb arall sy'n byta'n rhy sydyn, ac mai camdreuliad ddaw i ran pob un ohonoch ryw ben, ond waeth mi heb a dadlau.
Mi ffurfiwyd mudiad D.O.G - Defence of Osian Gruffydd un tro, i f'amddiffyn yn erbyn malais y bwytwyr cyflym. Mudiad di-les iawn oedd o.

Fy nôd ydi cael fy nerbyn i Orsedd y Beirdd, a bod yn Archdderwydd. Mi fydda cael Safnara yn bennaeth yr orsedd yn adfer ei bri, ar ôl blynyddoedd o enwau gwirion a di fflach megis Robyn Llŷn a Meirion. Mae Safnara i fyny yn yr uchelion efo Cynan, Hwfa Môn a Brinley.

Byddwch oddefgar - ma' rhai pobl yn hoff o gawl wedi oeri.

No comments:

Post a Comment